
Ein Nod
Mae Radio Sudd yn bodoli i ddathlu a chynrychioli diwylliant amgen Cymru gyfan drwy gerddoriaeth, creadigrwydd ac amrywiaeth. Mae Sudd yn cynnig llwyfan i leisiau artistig a diwylliannol o bob cefndir, gan uno cymunedau drwy gynnwys sy’n adlewyrchu eu diddordebau nhw. Ein nod yw meithrin gofod cynhwysol lle gall siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd deimlo’n gartrefol.
Ein Hethos
Bydd Sudd yn lais dylanwadol a blaengar sy’n cysylltu Cymru gyfan drwy gariad cyffredin at gerddoriaeth a chreadigrwydd drwy gynnwys dwyieithog ac amrywiol ac arloesol. Gorsaf sy’n adlewyrchu a siapio hunaniaeth gyfoes Cymru drwy radio really da.

Dathlu Diwylliant a Chreadigrwydd
Sudd yw gorsaf radio dwyieithog cenedlaethol cyntaf Cymru sy’n canolbwyntio ar y gorau o gerddoriaeth amgen a thanddaearol o Gymru a’r byd, wedi’i chyflwyno gan rai o gyflwynwyr mwyaf cyffrous Cymru.
Mae Sudd yn dathlu talent a chreadigrwydd o bob rhan o Gymru, gan roi llwyfan i leisiau diwylliannol ac artistig o bob cefndir. Mae amrywiaeth yn ganolog i’r genhadaeth – cofleidiwn safbwyntiau a diddordebau eang drwy gynnwys sy’n adlewyrchu hunaniaeth ein cymunedau.
Anelwn at uno cymunedau ledled Cymru drwy gariad at gerddoriaeth, creadigrwydd ac amrywiaeth, gan ddathlu’r hyn sy’n gwneud pob rhanbarth yn unigryw tra’n creu cysylltiadau sy’n pontio rhaniadau diwylliannol a ieithyddol.
Dilynwch ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol
Wedi’i Siapio Gennych Chi
Gyda rhaglennu cyfartal yn Gymraeg a Saesneg, byddwn yn anelu fod siaradwyr Cymraeg newydd, dysgwyr a rhai sydd efallai’n ansicr am eu Cymraeg yn cael man i deimlo’n gyfforddus i arbrofi a chyfrannu. Cymuned yw Sudd sydd yma i ysbrydoli ac arloesi.
Bydd yr orsaf yn cael ei siapio gan dîm o bobl angerddol a chreadigol, y cyflwynwyr, a chi, y gynulleidfa.

Eisiau bod yn rhan o Sudd?
Mae Sudd wastad yn edrych am fwy o bobl i gymryd rhan.
Syniad am raglen?
Awydd cynhyrchu?
Diddordeb mewn DJo?
Eisiau trafod dy syniadau?